Penblwydd - Mae hi'n ddiwrnod penblwydd ar rywun yn Nhyddyn Difyr, ond pwy tybed? Mae Tecwyn yn holi pawb er mwyn cael gwybod.
Byrnau Mawr - Mae Moi yn brysur yn gwneud Byrnau Mawr gyda Bryn y Belar a Len y Lapiwr, ac mae Tecwyn yn cael syniad sut i gadw'r brain draw.
Cneifio - Mae Tecwyn yn helpu i gario'r gwlân ar ddiwedd cneifio er bod Dwynwen y Ddafad yn gwneud ei gorau i osgoi'r peiriannau cneifio!
Picnic - Mae Nanw, Cadi a Tecwyn yn mynd am bicnic i'r traeth, ond beth fydd yn digwydd i'r picnic wrth i Tecwyn geisio achub rhywun o'r môr?